Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Eira a rhew yn creu awyrgylch hudolus yn Ogledd Ddwyrain Cymru

Credwn fod ein tamaid ni o Gymru yn hyfryd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae ychydig o eira a rhew yn ei wneud hyd yn oed yn fwy hudolus. Rydym am rannu rhai o’ch lluniau bendigedig chi i bawb gael eu gweld.

Tynnwyd y llun hyfryd hwn o Ddinas Brân uwchben y cwmwl rhewllyd yn Llangollen gan Carl Edwards

Un arall o’r tirlun hardd o gwmpas Llangollen gan Robbie Lovett.
Rhai o’r asynnod ym Moel Famau Donkeys yn yr eira.
Dan Traphont Ddŵr Pontcysyllte gan Aarron Gary Coe

Ac yn olaf, roedd yn rhaid i ni gynnwys y llun arbennig yma gan Rosie’s Triple D cider  

Cymerwch ofal ar bob ymweliad. Edrychwch ar ragolygon y tywydd – mae’r Swyddfa Dywydd yn lle da i ddechrau.  Cofiwch wirio’r amodau ar wahanol rannau o’ch llwybr, er enghraifft, os ydych am ddringo’r bryniau dylech ddarganfod pa mor oer a gwyntog fydd hi ar y copa, a hefyd beth fydd lefel y sylfaen cwmwl. Peidiwch â diystyru ffactor oerfel y gwynt.

Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru lawer o deithiau cerdded a gweithgareddau ar gyfer pob gallu, ond cyn i chi gychwyn mae’n bwysig Mentro gall. Byddwch yn onest â chi’ch hun amdano eich gwybodaeth, ffitrwydd a gallu ac eich cymdeithion a gwiriwch y tywydd a’r amodau diweddaraf.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.