Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ymweld â Dyffryn Clwyd ar fws

Dyma awgrym ‘diwrnod allan’ ysgafn gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Dim straen parcio ac am ddim os ydych chi’n digwydd cael tocyn bws!

Dinbych

Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl o dref wledig, mae Dinbych yn hyfryd iawn, gyda gerddi deiliog, strydoedd chwaethus ac adfeilion hynafol. Sefydlwyd ei chyfoeth yn oes Elisabeth fel canolfan ddiwylliant y dadeni, a bu iddi ddatblygu wedi hynny yn dref farchnad a oedd yn enwog am wneud menig – cyfoeth a ymgododd o garpiau a gwrthdaro.

Preswylfa Dafydd ap Gruffydd oedd y castell yn wreiddiol, ond fe’i cipiwyd ar gyfer y Saeson gan Edward I ac ymosodwyd arno sawl gwaith wedyn gan y Cymry. Parhawyd i ymladd drosto yn ystod Rhyfel y Rhosynnau a’r Rhyfel Cartref, pan gafodd ei feddiannu gan luoedd y Brenhinwyr rhwng 1642 a 1648. Wedi i’r Brenhinwyr ildio yn dilyn gwarchae eithaf cwrtais, cafodd y castell ei ddinistrio’n fwriadol (fel nifer fawr o gestyll eraill).

Mae Dinbych bellach yn fan tawel i ymweld ag o.

Eglwys Dewi Sant (Eglwys Leicester)

Er na chafodd yr eglwys hon erioed ei chwblhau (neu oherwydd hynny efallai), mae’n strwythur tangnefeddus bellach. Prosiect uchelgeisiol Robert Dudley (Iarll Caerlŷr) oedd hwn yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond pan fu farw, daeth yr arian i ben a rhoddwyd gorau i’r gwaith adeiladu. Y bwâu o arddull y Dadeni yw’r cwbl sydd ar ôl o’i freuddwyd Biwritanaidd i greu neuadd bregethu Brotestannaidd. Ond efallai wir fod yr eglwys yn fwy hyfryd byth o gael yr awyr yn do iddi.

Muriau’r Dref

Cedwir giât muriau’r dref ym Mhorth Burgess dan glo, ond os gwyddoch chi sut i gael gafael ar allwedd, mae profiad arbennig yn eich disgwyl, ac mae’n bosib iawn y cewch chi’r lle i gyd i chi’ch hun. Mae’r llwybr cul ar hyd y muriau yn eich arwain uwchlaw gerddi’r dref. Fe welwch chi winwydd yn ymestyn, gyda’r ffrwythau o fewn eich cyrraedd, ac yna, wrth i chi adael gerddi coeth canol y dref, fe welwch chi blanhigion troed y golomen yn dringo’r muriau ac afalau surion bach wedi gollwng oddi ar y coed gwyllt ar y tyrrau.

Wrth i chi droi’r gornel, mae’r golygfeydd ar draws Dyffryn Clwyd mor syfrdanol o’u cymharu â dyfnderoedd duon dwys Tŵr y Coblyn, nes bod y profiad yn teimlo fel breuddwyd.

Felly sut mae cael gafael ar allwedd i’r muriau? Wel, fel pe bawn i’n rhan o gyrch hudolus, fe ddes i ar draws rhywun ag allwedd breifat ar ôl digwydd taro sgwrs gyda dyn yn cario ysgol. Fel arall, ewch draw i’r castell a gofyn am gael benthyg eu hallwedd nhw.

Am fwy o wybodaeth gallwch lawrlwytho Llwybr Tref Dinbych yma.

Llanelwy

Mae’r ffyrdd yn llawer prysurach nag yr oedden nhw pan fûm i yma’n blentyn, ond nid yw’r heddwch wedi diflannu. Er bod y ddinas gadeiriol fechan wedi’i chorlannu gan yr A55 a’r A525, gyda’i strydoedd canoloesol, ei phensaernïaeth eglwysig felys (mae eglwys blwyf Llanelwy hefyd yn fan heddychlon), ei siopau annibynnol a’i llwybrau cerdded deiliog ar hyd glan Afon Elwy, mae Llanelwy yn parhau i fod yn gilfach werdd.

Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Mae’r gadeirlan yn rhoi heddwch i Lanelwy. Yn enwog am ei faint bach, mae’n meddiannu gofod tawel yn y byd er gwaethaf ei siâr o hanes cythryblus. Yn y 13eg ganrif ymosodwyd arno gan filwyr Edward I, gan filwyr Owain Glyndŵr yn y 15fed ganrif, ac yn yr 16g gan filwyr Oliver Cromwell, a oedd (meddir), yn gadael i’w ceffylau yfed o’r ffont. Eto i gyd, mae’n dal i fod â math o dawelwch. Mae lampau meddal yn tywynnu yn stondinau’r côr, lleiniau o olau lliw-wydr yn ymdrochi’r waliau, tra ar y tir mae’n ymddangos bod y coed yn sibrwd.

Mae’r gadeirlan hefyd yn dal lle yn fy nghalon ac yng nghalonnau unrhyw un y mae’r Gymraeg yn bwysig iddo oherwydd dyma lle roedd William Morgan yn esgob. William Morgan (gyda chymorth Edmund Prys y bardd), a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg – yr Hen Destament yn 1567, diwygiad o Destament Newydd William Salesbury yn 1588, a Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1599. Roedd eu gwaith yn hanfodol wrth helpu’r Gymraeg i ffynnu. Mae cerflun sy’n anrhydeddu’r cyfieithwyr, yn sefyll o flaen yr eglwys gadeiriol a rhywle yn y tiroedd coedliniog, a gollwyd i amser, yw bedd William Morgan. Mae ganddo hefyd ystafell de wych ar gyfer coffi bach.

Am fwy o wybodaeth gallwch lawrlwytho Llwybr Tref Llanelwy yma.

Yr Eglwys Farmor, Bodelwyddan

Mae Eglwys y Santes Margaret ym Modelwyddan, a adeiladwyd yn oes Fictoria, yn nodwedd amlwg yn y dirwedd, gyda’i meindwr gwyn gloyw sy’n trywanu’r awyr yn amhosib ei fethu o’r ffordd. Ond mae’n cymryd dwy neu dair taith ar y bysiau i mi sylweddoli pam fod yn enw Bodelwyddan mor gyfarwydd. Bodelwyddan. Dyma ble mae’r milwyr o Ganada wedi’u claddu.

Ym 1919, roedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ben ond roedd 17,000 o filwyr o Ganada yn dal i aros yng ngwersyll hyfforddi’r fyddin ym Mae Cinmel i’r llongau ddod i’w cludo nhw gartref. Roedd eu hamodau byw yn ddeifiol o oer a chyfyng, roedd bwyd yn brin ac roedd y ffliw yn ymledu. Ond fe ganslwyd sawl llong ac aeth eraill, a oedd wedi’u bwriadu ar eu cyfer, â milwyr Americanaidd gartref yn eu lle. Pan aeth hi’n gythrwfl, anafwyd 28 o filwyr a lladdwyd pump. Mae gan bedwar o’r pump hynny fan gorffwys heddychlon o leiaf, yn Eglwys y Santes Margaret, ynghyd ag 85 o’u cymrodyr, y bu farw nifer ohonyn nhw o’r ffliw.

Mae’r eglwys hefyd yn nodedig am ei marmor. Defnyddiwyd pedwar math ar ddeg i’w hadeiladu, gan gynnwys pileri wedi’u gwneud o farmor coch Gwlad Belg, bonion marmor Purbeck yn cynnal pileri marmor Languedoc a chorff yr eglwys wedi’i wneud o farmor Ynys Môn.

Y Rhyl

Efallai nad yw’r Rhyl yn cael ei disgrifio fel un heddychlon. Ond ewch am dro allan ar y slabiau helaeth o dywod wrth i’r llanw encilio a byddwch yn dod o hyd i le a thawelwch, ac unigedd os ydych ei eisiau, ac eithrio ar gyfer y gwylanod tyllu.

Ac os, ymhlith hyb siopau ac arcêd, dim ond lle tawel sydd ei angen arnoch i eistedd am ychydig, fe welwch yr Eglwys Unedig gyferbyn â gorsaf yr heddlu ar agor o 9.00 – 5.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener (a 11.00 ar ddydd Sul am wasanaethau). Dewch i ymweld ar ddydd Iau a byddwch yn dod o hyd i gaffi sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, gan ddarparu gofal, cymuned a lle diogel heddychlon i bawb.

Am fwy o wybodaeth gallwch lawrlwytho Llwybr Tref y Rhyl yma. Neu gallwch wrando ar ein llwybr sain yma.

Bydd bws 51 a 51B ill dau’n mynd â chi i’r holl leoedd a restrir yma. Maen nhw’n gadael stand D yng ngorsaf fysiau’r Rhyl. Arriva Cymru sy’n darparu’r gwasanaeth.

Den ni’n derbyn nad yw gwibio ar hyd yr A525 ar fws deulawr wir yn brofiad heddychlon, er bod sedd ar y llawr uchaf yn rhoi argraff o leiaf i chi o deithio drwy gefn gwlad gwyrdd digynnwrf. Ond mae yna safleoedd tawel braf a mannau cysegredig i’w gweld ar y ffordd. A gyda’r bysiau’n rhedeg ddwywaith yr awr rhwng 6 y bore a hanner nos, mae hwn yn wasanaeth gwych i chi deithio fel y mynnwch chi.