Cogwarts – Digwyddiad Steampunk
-
Dyddiad cychwyn
13 Medi 2024 Digwyddiad trwy'r dydd
-
Dyddiad Gorffen
15 Medi 2024 Digwyddiad trwy'r dydd
Dewch draw ac ymunwch ag US (Utter Spiffingtonians) am benwythnos gwych llawn steampunk a digwyddiadau cyffrous. Byddwch yn barod am ychydig dros ddau ddiwrnod o weithgareddau penigamp! Bydd y penwythnos yn dechrau ar y nos Wener (13 Medi) gyda THAITH TRÊN STÊM ac adloniant awr a hanner yn Rheilffordd Llangollen, yn ogystal â chystadleuaeth picnic gorau am gyfle i ennill tocynnau i Cogwarts 2025!
I orffen y noson, bydd amrywiaeth o gerddoriaeth a phrysurdeb yn y theatr Fictoraidd yn Neuadd Tref Llangollen LL20 8AD, gan gynnwys Blozone – ac ar ôl dwy flynedd cythryblus, mae’n dod yn ôl! Ia wir – STEAMPUNKS GOT TALENT! Arddangosfa o gampweithiau syfrdanol! Rydym wedi chwerthin! Rydym wedi crïo! Bu bron i bethau droi’n flêr! Y cwestiwn sydd ar feddwl pawb yw, “A fydd Major Blunder yn gallu troi methiant yn fuddugoliaeth eleni?’ Dim ond amser, chi, y gynulleidfa, a’r beirniaid a ddengys …
Ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul (14 a 15 Medi), byddwn yn aros yn Rheilffordd Llangollen, LLE GALLWCH DEITHIO AR DRENAU STÊM DRWY’R PENWYTHNOS AM BRIS UN TOCYN!!! Cewch ddigon o gyfleoedd i dynnu lluniau! Ewch draw i’r Farchnad Steampunk BIZARRE BAZAAR lle bydd stondinau mewn pabelli yng ngorsaf Carrog a gasebos unigol yng ngorsaf Llangollen. Bydd TEALYMPICS hefyd yn cael ei gynnal yng ngorsaf Carrog, gydag amrywiaeth o hen gemau steampunk y gallwch gymryd rhan ynddynt neu eistedd yn ôl a’u mwynhau.
Hefyd ar y dydd Sadwrn o 7.00pm, byddwn yn dychwelyd i Neuadd y Dref ar gyfer y DDAWNS STÊM FAWREDDOG! Ymunwch â ni yn y lleoliad newydd arbennig hwn am ddigwyddiad llawn stêm! Gan eithrio’r newidiadau i alluogi ein gwesteion i deithio ar drenau stêm drwy’r penwythnos, RYDYM WEDI CADW’R UN PRISIAU Â’R LLYNEDD!
Tocynnau o £25