Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ar Lan y Môr; O’r Rhyl i Ronant. 11C, 11M, 18

Ein pedwerydd blog gan Julie Brominicks Awdur The Edge of Cymru (cyhoeddwyd gan Seren Books) ac cyfrannydd cyson  i BBC Countryfile Magazine.

Julie yn cerdded yn Powys

Mae pob gwasanaeth bws yn gadael stand C yn y Rhyl unwaith yr awr. Ond dim ond 11C sy’n mynd i Barc Carafanau Gronant, ac felly’n mynd â chi’n nes at yr arfordir – mae 11M ac 18 yn stopio ar y ffordd fawr. Mae’r holl wasanaethau yn rhai Arriva Cymru

Wedi’i wasgu rhwng y bryniau a’r môr, mae glandir gogledd Cymru wastad wedi bod yn sianel gludiant, gan wneud arfordir Sir Ddinbych (sef 7 milltir o dywod rhyfeddol ac euraidd) yn lle hawdd i’w archwilio. Mae digon o ddewis – rheilffordd Caer i Gaergybi, yr A55, Llwybr Beicio Gogledd Cymru a Llwybr yr Arfordir. Ond os nad oes gennych chi’r egni na’r amser, mae bws 11C yn mynd â chi o brysurdeb tref y Rhyl, drwy dawelwch Prestatyn i dwyni tywod gwyllt a gwag Gronant, ac oddi yno fe allwch chi barhau i gerdded at y goleudy yn Nhalacre.

Y Rhyl

Wedi’i wasgu rhwng y bryniau a’r môr, mae glandir gogledd Cymru wastad wedi bod yn sianel gludiant, gan wneud arfordir Sir Ddinbych (sef 7 milltir o dywod rhyfeddol ac euraidd) yn lle hawdd i’w archwilio. Mae digon o ddewis – rheilffordd Caer i Gaergybi, yr A55, Llwybr Beicio Gogledd Cymru a Llwybr yr Arfordir. Ond os nad oes gennych chi’r egni na’r amser, mae bws 11C yn mynd â chi o brysurdeb tref y Rhyl, drwy dawelwch Prestatyn i dwyni tywod gwyllt a gwag Gronant, ac oddi yno fe allwch chi barhau i gerdded at y goleudy yn Nhalacre.

I lawr ar lân y môr mae yna farrau byrbrydau, ffair, arcedau, caffis, stondinau cŵn poeth a hufen iâ, mulod, toesenni a chadeiriau cynfas. Os oes gennych chi ychydig o arian i’w wario yna fe allwch chi fynd i’r Seaquarium lle fedrwch chi weld bywyd morol o bedwar ban byd, neu fynd i weld sioe yn Theatr y Pafiliwn. Os ydych chi’n chwilio am antur, fe allwch chi fynd i bysgota, nofio neu i syrffio. Ond, gorau oll, mae’r glan y môr yn esmwyth ac yn llydan ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn, beics, byrddau sglefrio a phramiau, gyda llethrau a llwybrau gosgeiddig sy’n troelli o amgylch y gwelyau blodau.

Mae’r Rhyl yn fy nallu gyda’i golygfeydd godidog o gopaon Eryri, sy’n gefnlen fynyddig syfrdanol i’r traeth. Mae’r fferm wynt ar y môr yn fy atgoffa o lyngesau bach, ac mae ehangder y tywod pan fo’r môr ar drai yn anferth.

Prestatyn

Er mai ond 4 milltir o’r Rhyl yw Prestatyn, gyda stryd fawr frics a bryniau sy’n dod yn donnau at y dref, mae’i chymeriad yn wahanol iawn. Rhain yw Bryniau Clwyd, sy’n ymestyn yn hudolus tua’r de. Fe allwch chi gerdded ar hyd y bryniau yr holl ffordd i Gas-gwent, ar hyd Llwybr y Clawdd Offa. Gyda Llwybr yr Arfordir, Taith Clwyd a llwybrau byrrach i Ddyserth a Gronant, does dim rhyfedd bod Prestatyn yn dref sy’n estyn ‘Croeso i Gerddwyr’. Gall cerddwyr fanteisio ar y cysylltiadau cludiant cyhoeddus da a dewis gwych o lefydd bwyta – mae’r stryd fawr yn dal ei thir, er gwaethaf canolfan siopa ddisglair newydd sydd yng nghanol y dref yn hytrach nag ar ei chyrion. Mae’r Stryd Fawr yn gartref i drysorau bach, fel ystafell de Blooms sydd hefyd yn siop flodau, a Patagonia sy’n gweini bwyd Cymreig lleol gyda blas De America.

Ac yna mae’r traeth, sydd â lle i bawb.

Gwarchodfa Natur Gronant

Wrth ddod oddi ar y bws ar Shore Road yng nghanol y pentrefi gwyliau, dwndwr y palmwydd, y carafanau, y parciau dŵr, yr arcedau a’r holl chwerthin ac arogl bwyd sy’n dod o’r clybiau, mae’n siŵr eich bod chi’n methu’n glir â deall ble ar wyneb y ddaear mae’r bywyd gwyllt? Mae’r parciau gwyliau yn rhai hunangynhwysol yn bennaf, ar wahân i’r llwybrau at y traeth. A rhwng y pentrefi gwyliau a’r lan fe gewch hyd i Warchodfa Natur Twyni Tywod Gronant.

Ac wele amrywiaeth o gynefinoedd! Twyni euraidd a gwasgarog, gyda llwybrau bychain drwyddynt. Twyni deniadol, sy’n dal yn symud, twyni aeddfed y mae planhigion wedi bwrw gwreiddiau ynddynt, gan adael i bridd a llystyfiant ddatblygu. Ac ar eu cyrion, gwelyau cyrs, prysg a choed ifanc.

Mae’r cydbwysedd rhwng pobl a natur yn un bregus iawn yma. Mae’n bwysig parchu’r ffensys – gall cŵn sy’n hoffi’r dŵr er enghraifft, droi llaid mewn pyllau bas gan darfu ar lyffaint cefnfelyn sydd angen dŵr clir i fridio. Ond mae yna le i bobl a natur. Mae’r warchodfa yn gartref i dinwynion a chreciau’r eithin, i deloriaid y gwair a thylluanod clustiau byrion. Glastiroedd o degeirianau, môr-gelyn a lafant y môr. Ac yn yr haf mae’r llain arfordirol yma’n gartref i’r unig nythfa fridio môr-wenoliaid bach yng Nghymru, ac mae eu campau yn yr awyr a’u caniadau gwichlyd yn werth eu gweld a’u clywed. Ond yr hyn sydd yn aros yn fy nghof fwyaf, ar ôl diwrnod poeth ym mis Awst, yw yswitiadau’r llinosod rhosliw yn gwibio o gwmpas y llwybr pren fel dail yn y gwynt.

Goleudy’r Parlwr Du, Talacre

Mae’r adar a’r cynefinoedd twyni mor hudolus, a’r llwybr yn cael ei ofalu amdano mor dda, nes ei bod hi’n hawdd iawn penderfynu parhau i gerdded ar hyd yr arfordir a chroesi’r ffin i Sir y Fflint. Yma, ble mae’r twyni yn meinhau ac yn tynnu at eu terfyn, fe ddowch chi o hyd i Oleudy’r Parlwr Du – adeiledd rhamantaidd gydag ôl y tonau arno, sy’n dal yn gwarchod aber Afon Dyfrdwy tair canrif ar ôl ei godi.