Syniadau teithiau cerdded gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma- Rhif 2
Fiona Gale sydd wedi dewis y daith nesaf. Ni chafodd Fiona ei geni yng ngogledd Cymru, ond mae hi wedi byw yma ers 1985 a bu hi’n ddigon ffodus i weithio’n lleol yn y maes archeoleg o 1988. Ym 1996, daeth yn archeolegydd sir ar gyfer Sir Ddinbych. Gan weithio yn y Gwasanaeth Cefn Gwlad gyda grŵp o bobl wych ac ymrwymgar, datblygodd Fiona brosiectau archeolegol ar draws yr ardal. Ers ymddeol yn 2018, mae hi wedi parhau i ymwneud ag archeoleg fel Ymddiriedolwr sefydliadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac wedi cyfrannu’n helaeth at brosiectau lleol. Mae hyn yn golygu fod Fiona a minnau wedi dod i adnabod yr ardal yn dda… ac mae Fiona’n dal i fwynhau crwydro’r bryniau a’r dyffrynnoedd sydd nid yn unig yn hyfryd ond hefyd yn frith o nodweddion archeolegol a hanesyddol.
“Am dros ugain mlynedd, bues yn ddigon ffodus i weithio ar draws Sir Ddinbych a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dysgu am hanes ac archeoleg yr ardal a gobeithiaf fy mod wedi rhannu fy niddordeb a’m hangerdd gyda phobl eraill. Dros y cyfnod hwn, cerddais i bob cwr o’r ardal yn archwilio bryngaerau, cestyll, ardaloedd cloddio plwm a llechi, carneddau cynhanesyddol a bynceri’r ail ryfel byd, yn ogystal â Safleoedd Treftadaeth Byd. Mae bob un ohonynt yn wych, ac roedd bron yn amhosibl dewis fy hoff daith. Penderfynais o’r diwedd ar daith ym Mryniau Clwyd, ac yn rhannol ar Lwybr Clawdd Offa. Yn y daith hon, byddwch yn crwydro dwy fryngaer o’r Oes Haearn yn ogystal â safleoedd mwyngloddio aur, yn archwilio eu hanes rhyfeddol, yn ymarfer y corff wrth gerdded i fyny’r bryniau ac yn mwynhau’r golygfeydd godidog o’r copaon.
Mae llwybr Clawdd Offas yn mynd trwy Fryniau Clwyd ac yma y gwelir o fryngaer Pencloddau.
Dechreuwch ym maes parcio Llangynhafal a cherddwch tua’r gogledd i fyny llwybr Clawdd Offa i gopa Penycloddiau, bryngaer Oes yr Haearn. Yn fan hyn, rwyf bob amser yn cael fy nenu gan ragfuriau’r ochr ddwyreiniol lle bu myfyrwyr Prifysgol Lerpwl yn treulio sawl haf yn cloddio rhan fechan o’r safle, daeth y myfyrwyr o hyd i dystiolaeth bod pobl wedi byw mewn tai ar lethrau’r bryn a chawsant hefyd flas ar waith archeolegol. Wrth ddod yn ôl o amgylch y rhagfuriau i’r gorllewin, gallwch ddychwelyd i lawr ar hyd trac coedwigaeth drwy’r coed conifferaidd… a gafodd eu plannu yn y cyfnod lle’r oedd ar y wlad angen pyst ar gyfer pyllau. Yn ôl drwy’r maes parcio ac ymlaen i lwybr o amgylch Moel Arthur i’r gorllewin, byddwch yn agos iawn at safleoedd mwyngloddio bychain lle bu pobl yn cloddio am aur yn fwy diweddar. Mae aur ym Mryniau Clwyd, ond fel y gwelodd y mwyngloddwyr o’r Oes Fictoria, nid oes digon o aur yma i fod yn werth cloddio amdano. Byddwch yn cerdded heibio sgubor fechan hanner ffordd i lawr yr allt ac yn cyrraedd y ffordd lle gallwch gerdded i faes parcio Moel Arthur, gan ail-ymuno â llwybr Clawdd Offa lle gallwch ddringo i fyny tua bryngaer Moel Arthur. Mae arwydd llechen arbennig iawn yn dangos y ffordd i’r fryngaer, cafodd ei greu gan fy ffrind a oedd yn gweithio i’r Gwasanaeth Cefn Gwlad a fu farw’n llawer rhy ifanc. Nid oes gwaith cloddio wedi bod ar fryngaer Moel Arthur ers y 19eg ganrif, ond mae grŵp lleol wedi bod yn gweithio ar y llethrau rhwng y fryngaer a’r llwybr dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi darganfod bod bodolaeth pobl yn yr ardal hon yn deillio’n ôl ymhellach nag Oes yr Haearn oddeutu 2500 o flynyddoedd yn ôl. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y copa, gallwch weld golygfeydd godidog o Ddyffryn Clwyd a Sir y Fflint a thu hwnt, gallwch hefyd weld y maes parcio lle dechreuwyd y daith.
Mae’r daith yn oddeutu 4 milltir (7km) o hyd, ond mae’n cynnwys bryniau serth i godi curiad y galon, tystiolaeth ryfeddol o fodolaeth pobl ar y bryniau hyn filoedd o flynyddoedd yn ôl yn ogystal â golygfeydd arbennig… ac efallai mai’r prif reswm dros ddewis y daith gerdded hyfryd hon i mi oedd fy nghacen pen-blwydd yn 60 oed. Cefais y gacen arbennig yn seiliedig ar fryngaer Penycloddiau gan fy mhlant… maen nhw’n fy adnabod i’n dda.”