Syniadau teithiau cerdded gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma- Rhif 1
Fel rhan o Flwyddyn Llwybrau Croeso Cymru ac mae mis Mai yn Mis Cerdded Cenedlaethol rydym wedi casglu rhai o’ch ffefrynnau ac fe fyddwn yn eu rhannu yn ystod mis Mai i roi ysbrydoliaeth a syniadau i’n darllenwyr i’w harchwilio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r ardal o amgylch.
Fe ddaw ein llwybr cyntaf gan staff gwych y Ganolfan Groeso yn y Capel yn Llangollen. Maent yn galw eu hunain yn ‘Dair Merch Canolfan Groeso Llangollen’ a gyda’i gilydd mae ganddynt 45 mlynedd o brofiad yn helpu ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn nhref brydferth Llangollen, Dyffryn Dyfrdwy a safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a Llangollen. Maent yn honni eu bod yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd a dyma pam maent wrth eu bodd â’u swyddi! Dyma eu hawgrym o gwmpas Llwybr Gwarchodfa Natur Gwenffrwd.
Dyma eu hawgrym o gwmpas Llwybr Gwarchodfa Natur Gwenffrwd.
Y Merched o’r Ganolfan Groeso yn cael seibiant enilledig
“Rydym yn aml yn cerdded yn ardal tref hynafol Llangollen, sydd yng nghesail dyffryn godidog Dyfrdwy yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a sydd â chysylltiadau da o’r prif draffyrdd. Mae cludiant cyhoeddus yn hawdd, fodd bynnag, gyda phrif lein gorsaf Rhiwabon yn daith o ddim ond 15 munud gyda bws rhif 5 neu T3 – yn aml mae’n fws deulawr ac rwy’n hoffi eistedd ar y llawr uchaf gan ei bod yn haws i fwynhau’r golygfeydd o Gastell Dinas Brân, Creigiau Trefor a’r Panorama. Os nad ydych wedi profi’r rhan yma o’r byd yna rhowch hynny ar eich rhestr nawr!
Rydym wrth ein bodd â Llwybr newydd Gwarchodfa Natur Wenffrwd. Mae’r Warchodfa Natur wedi ei chreu ar gyn safle tirlenwi ac mae’n cynnig taith gylchol gyda golygfa anhygoel o afon Dyfrdwy. Mae natur wedi gwneud gwaith gwych yn adennill y safle gyda dolydd blodau gwyllt toreithiog, cyfleoedd i ystlumod glwydo, cartrefi i wenyn unig a mieri trwchus sy’n cynnig ardal ddiogel i adar nythu a chwilota. Does dim byd yr ydw i’n ei fwynhau fwy na chasglu mwyar duon, does dim rhaid i chi chwilio yn bell ac maent yn flasus iawn. Yn ddiweddar fe es i archwilio’r safle hwn sydd newydd agor drwy ddilyn llwybr yr Hen Lein Reilffordd sydd wedi cael arwyneb newydd a sy’n dechrau o Ganolfan Iechyd Llangollen ar yr A539. Cadwch lygad am y Ddraig, sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel Mossy ac sy’n gwarchod y fynedfa i’r llwybr. Mae’n rhyfedd ond mae’n wir – yn dibynnu ar ba ongl yr ydych yn edrych ar Mossy fe all edrych yn ffyrnig neu fe all fod yn gwenu.
Wrth i ni gerdded i’r dref ar hyd y llwybr, mae’n cymryd tuag 20 munud. Rwy’n clywed yr adar yn canu, yn gweld pobl yn mynd â’u cŵn am dro, rwy’n mynd heibio i Gerflun y Ddraenen Wen, a gafodd ei greu gan Michael Johnson yn 2005 a sy’n arwydd o groeso i Langollen. Mae bod yn yr awyr agored yn gwneud i chi deimlo’n llawer gwell cyn cael diwrnod yn gweithio dan do. Rwy’n credu ei fod yn dda i’ch iechyd hefyd. Mae’r llwybr yn darparu llwybr gwastad a hardd sy’n rhydd o draffig i ac o Langollen gan ddechrau yn y Ganolfan Iechyd, gan ei wneud yn addas i’r rhai sy’n llai abl.
Mae yna faes parcio bach rhad ac am ddim yn y warchodfa natur neu os oes well gennych chi gludiant cyhoeddus mae yna arhosfan bws gyferbyn â’r maes parcio, ond byddwch yn ofalus wrth groesi’r ffordd. Yn ystod y prif dymor gwyliau, fe allwch neidio ar Wasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy sy’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi o gwmpas gydag atyniadau lleol poblogaidd gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Plas Newydd a Bwlch yr Oernant. A gwell na hynny hyd yn oed mae deiliaid cerdyn bws yn cael gostyngiad ar y gwasanaeth hwn hefyd.
Fe allwch hefyd ymestyn y llwybr. Croeswch y ffordd gyferbyn â Wenffrwd ac ewch ar lwybr tynnu’r gamlas (pont rhif 42) at Landdyn. Ewch yn ôl i gyfeiriad y dref gan fwynhau’r llwybr tawel a heddychlon hwn, mae’r dirwedd hardd yn ei gwneud yn anodd i ddychmygu’r cyfnod pan oedd glo a chalchfaen yn teithio i fyny ac i lawr y gamlas gyda chwch. O’r diwedd fe fyddwch yn cyrraedd Glanfa Llangollen, cartref y teithiau cychod ar y gamlas, lle gallwch fwynhau paned o de a chacen gartref haeddiannol iawn yn yr ystafelloedd te anhygoel hyn.”
Mae gan merched y Ganolfan Groeso gyfoeth o wybodaeth ac maent yn hapus i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am eich ymweliad a chynnig cymorth gydag awgrymiadau am lefydd i aros.
Fe ddowch o hyd iddyn nhw yn Y Capel ar Stryd y Castell yn Llangollen.
Oriau agor
09:30 – 5pm
Dydd Mawrth
09:30 – 5pm
Dydd Mercher
09:30 – 5pm
Dydd Gwener
09:30 -5pm
Dydd Sadwrn
09:30 -5pm