Padl fyrddio dan y sêr
Nid yn ystod y dydd yn unig y mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn hardd. Mae’r awyr dywyll sy’n frith o sêr llachar yn werth ei gweld yn ystod y nos. Felly mae’n leoliad perffaith i gyflawni’r daith gorau erioed – ar draws bellteroedd enfawr y gofod.
Mae’r AHNE yn ceisio derbyn statws swyddogol gan Gymdeithas Ryngwladol Awyr Dywyll. Rydym yn addysgu pobl ynglŷn â sut i leihau llygredd golau ac yn cynnal amryw o ddigwyddiadau cyffrous; o syllu ar y sêr a sgyrsiau telesgop i deithiau cerdded i weld ystlumod, tylluanod a chreaduriaid eraill y nos.
Er mwyn cloi Wythnos Awyr Dywyll Cymru yr wythnos ddiwethaf dyma ni’n mwynhau ail noson hudol o dan y sêr a ninnau ar y dŵr. Ymunodd padlwyr o bob cwr o’r wlad i ymuno â ni – o Lerpwl, Manceinion, Cymbria a hyd yn oed Swydd Gaerwrangon.
Roedd y digwyddiad padl fyrddio yn gyfle i ni fynd ar y dŵr yn Loggerheads i fwynhau noson o badlo hamddenol wrth i ni ddod i arfer gydag awyr y nos. Yna roedd cyfle i fwynhau sgwrs gan Dani, swyddog awyr dywyll Gogledd Cymru wrth i ni arnofio’n ysgafn ymysg y brwyn. Mae Dani yn llawn gwybodaeth am awyr y nos ac fe rannodd straeon ac eglurodd y rheswm dros enwi’r cytser oedd yn amlwg i ni o’r dŵr yn Orian a Pleiades. Eglurodd ychydig am lên gwerin Cymru sy’n cynnwys y sêr hyn. Ymunodd fywyd gwyllt nosol yr ardal leol gyda ni hefyd – gyda tylluanod brych yn hwtian wrth i ni gymryd rhan ar y dŵr.
Ar ôl dod oddi ar y dŵr mwynhawyd cwpanaid o ‘siocled poeth’ wrth wylio’r sêr a’r planedau trwy’r telesgop. Fel trît bach i orffen cafwyd tafell hael o gacen Becws Henllan a chrasu melys malws ar y tân. Rhoddwyd y digwyddiad ar #suplass travel adventures ac i ddarganfod mwy am eu digwyddiadau ewch i’r ddolen yma
Dysgwch fwy am awyr dywyll Cymru yma.