Dathlu Hanner Can Mlwyddiant Llwybr Clawdd Offa
Mae taith i arddangos rhan Sir Ddinbych o’r llwybr cerdded cenedlaethol wedi’i gynnal i ddathlu hanner can mlwyddiant y llwybr.
Dan arweiniad Rob Dingle, swyddog llwybrau cenedlaethol y llwybr, cynhaliodd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy daith gerdded ar lechweddau Prestatyn ar hyd Llwybr Clawdd Offa.
Mae Llwybr Clawdd Offa yn llwybr cerdded 177 milltir sy’n cynnwys rhannau o’r clawdd a godwyd dan orchymyn Brenin Offa yn yr wythfed ganrif.
Agorwyd y llwybr yn ystod haf 1971 ac mae’n cysylltu Clogwyni Sedbury ger Cas-Gwent â Phrestatyn.
Roedd y daith ar 23 Medi yn gyfle i weld y gwaith sydd wedi’i wneud i’r llwybr. Daeth dros 40 o gerddwyr ar y daith, gan gynnwys rhai o’r gwirfoddolwyr a fu’n gweithio ar y gwelliannau i’r llwybr.
Meddai’r Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych a Chadeirydd Cyd-Bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle i arddangos y rhan hon o’r Llwybr Clawdd Offa.
“Roedd hefyd yn gyfle i ddiolch i’r gwirfoddolwyr sydd wedi cynorthwyo i gynnal a chadw a gwella’r llwybr dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf – mae eu cyfraniad wedi cael effaith fawr.
“Hoffaf annog preswylwyr Sir Ddinbych i fwynhau’r cefn gwlad sydd ar garreg eu drws a cherdded rhannau o’r llwybr”.
Meddai Ken Robinson o Eryrys, gwirfoddolwr sy’n helpu i gynnal a chadw’r llwybr: “Roedd yn braf gallu gweld y gwelliannau sydd wedi’u gwneud i’r llwybr a rhannu’r profiad hwnnw gyda gwirfoddolwyr eraill. Mae’n bleser gwirfoddoli mewn lle mor braf.
“Uchafbwynt fy nghyfnod fel gwirfoddolwr oedd dysgu sut i godi waliau gerrig ac ar ôl llawer o ymarfer, derbyniais dystysgrif gychwynnol gan y Gymdeithas Codi Waliau Cerrig.
“Mae pob gwirfoddolwr yn derbyn croeso cynnes. Rydym yn grŵp o bobl o bob oed a gallu sy’n mwynhau’r awyr agored ac ymgymryd â thasgau fel clirio prysgwydd, adeiladu ac atgyweirio grisiau, bondocio coed, codi ffensys, codi waliau cerrig a phlygu perthi – sydd yn ein cadw yn iach a hapus.”
Os hoffech chi wirfoddoli gyda AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy cysylltwch â ahnebryniauclwyd@sirddinbych.gov.uk