Gemau cudd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn aros i gael eu darganfod
Yr wythnos diwethaf, bûm ar daith ymgyfarwyddo Gogledd Ddwyrain Cymru gyda thema trysorau cudd Celfyddyd a Diwylliant.
Ar ddechrau’r diwrnod, cawsom ein croesawu gan ein tywysydd Roberta Roberts o gwmni Celtic Tour Guide Wales. Wrth i ni ddringo dros Fryniau Clwyd rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug, cawsom ein hannog i ystyried y dirwedd hydrefol odidog yr oedd Roberta mor wybodus amdani, a thaniodd fy nychymyg gyda hanes arlunwyr enwog oedd wedi syrthio mewn cariad â thirwedd Gogledd Ddwyrain Cymru. O Richard Wilson y dywedir ei fod wedi paentio arwydd y ‘We Three Loggerheads’ i dalu ei dab cwrw mawr, i Charles Kingsley, awdur ‘Waterbabies’ a oedd yn dod i aros yn aml ac yn mynd am dro ar hyd yr afon Lît. Wrth gyrraedd i’r Wyddgrug, aethom heibio tafarn y Pentan, gydag arwydd yr awdur enwog o’r Wyddgrug, Daniel Owen, a hanes ei gymeriad Enoc Huws a symudodd fysedd y cloc ymlaen i osgoi’r bregeth hir. Eglurodd Roberta am hanes Terfysgoedd yr Wyddgrug yn 1869, pan gafodd 7 glöwr ddedfryd o ddeng mlynedd o lafur caled yn dilyn anghydfod â rheolwr y gwaith glo lleol, dedfryd lem iawn o’i gymharu â safonau heddiw.
Yn ôl i’r presennol ac fe arhosom wrth Gofeb Ryfel yr Wyddgrug, sy’n cuddio’r fynedfa i drysor cudd anhygoel. Rydw i wedi byw yn yr ardal hon y rhan fwyaf o’m bywyd a dyma’r tro cyntaf i mi ymweld â Bryn y Beili, safle Castell Normanaidd ers 1100. Cawsom daith drylwyr iawn gan staff a gwirfoddolwyr brwdfrydig a eglurodd nad yw’r Wyddgrug yn ymddangos yn y llyfr Domesday oherwydd na ddechreuodd tan ychydig wedi hynny. Yn dilyn Brwydr Hastings, sefydlodd y Normaniaid anheddiad yn 1086 ar dwmpath rhewlifol a ddaeth yn Fryn y Beili oherwydd yr olygfa odidog o’r ardal. Ystyr y gair Beili yw clostir a byddai wedi bod yn fwnt (clwt o dir) i ddechrau, ble’r oedd yr uchelwr yn cadw llygaid ar bethau a byddai ffens bren 15 troedfedd o gwmpas y beili yn bennaf i gadw da byw. Rydw i wedi meddwl yn aml sut cafodd yr Wyddgrug ei enw, a chredir ei fod yn deillio o enw’r uchelwr Normanaidd, Ronald de Mount oedd yn byw ym Mryn y Beili a bod hyn wedi dod yn ‘Mold’ yn Saesneg dros y blynyddoedd. Yn 1277, dinistriodd Llywelyn ap Gruffydd y castell a bu ymladd brwd am y safle rhwng arglwyddi Gwynedd, Powys a’r Gororau. Bellach, mae Bryn y Beili yn berchen i bobl yr Wyddgrug wedi iddynt ddod at ei gilydd i’w brynu gan y Fonesig Mostyn yn 1920. Mae ganddynt lawer o ddatblygiadau newydd cyffrous gyda chanolfan newydd sbon a man chwarae ar thema castell ar y gweill.
Ar ôl dod i lawr i’r dref, fe wnaethom ddringo rhywfaint i Theatr Clwyd. oedd yn fwy cyfarwydd i mi. Ar ôl mwynhau cinio blasus, cawsom wledd go iawn gyda thaith y tu ôl i’r llenni. Roedd y theatr wrthi’n brysur yn adeiladu’r set, cynllunio’r goleuadau a sain ac ymarfer ar gyfer y Panto Nadolig Beauty and The Beast. Roedd yn agoriad llygaid gweld cymaint o waith paratoi oedd ei angen ar gyfer cynhyrchiad mor fawr, ac roedd elfen o gyffro am y gwaith ailwampio oedd yn yr arfaeth i foderneiddio a gwella’r lle sydd bron yn 50 oed.
Yna, yn ôl â ni am y bws i ymweld â safle llawer tawelach, sef Ffynnon Santes Winefride yn Nhreffynnon. Mae hwn yn safle hudolus i unrhyw un sydd erioed wedi bod yno. Mae’n rhan o hanes cyfoethog y Pererinion Brenhinol ac mae’r dŵr yn enwog am ei allu iachusol hudolus. Y peth mwyaf teimladwy oedd gweld y pentwr o hen faglau yn yr amgueddfa a adawyd gan rai oedd wedi ymolchi yn nŵr y ffynnon ac wedi cael iachâd gwyrthiol fel nad oedd arnynt eu hangen mwyach. Roedd gwawr las i’r dŵr yn y Cysegr ac mae bedyddfaen ble gallwch yfed neu lenwi cwpan a gallwch hefyd ymolchi am awr a hanner bob dydd yn y pwll allanol os ydych yn ddigon dewr yn ystod misoedd y gaeaf. Tynnodd Roberta sylw at y graffiti hynafol gan ymwelwyr amrywiol â’r gladdgell, rhai ohonynt yn dyddio’n ôl 600 o flynyddoedd.
Mae’r chwedl o’r 12fed ganrif am Ffynnon Santes Winefride yn adrodd stori Winifred, merch ifanc a wrthododd gynnig y Tywysog Caradog, ac fe bechodd cymaint yn ei erbyn nes iddo dorri ei phen. Cododd pistyll o’r tir ble disgynnodd ei phen a daeth ei hewythr, Sant Beuno â hi’n ôl yn fyw a daeth yn ferthyres.
Yn olaf, fe aethom i le oedd yr un mor hudolus, Castell y Fflint. Nid ydych yn cysylltu’r Fflint a’i rhesi tai uchel â chyrchfan gwyliau, ond mae’r castell wir yn arbennig ac roeddem yn ddigon lwcus i ymweld tua diwedd y prynhawn pan oedd gwawr binc i’r awyr. Castell y Fflint oedd y cyntaf o’r hyn a elwid wedyn yn “Gadwyn Haearn” Edward y Cyntaf. Cadwyn o gaerau a gynlluniwyd i amgylchynu Gogledd Cymru a gormesu’r Cymry. Dechreuwyd ei adeiladu bron yn syth wedi i Edward y Cyntaf ddechrau’r Rhyfel Cymru cyntaf yn 1277. Mae’n enwog hefyd oherwydd mai dyma leoliad y cyfarfyddiad tyngedfennol yn 1399 rhwng Richard II a gelyn i’r goron Henry Bolingbroke (ddaeth yn Henry IV yn ddiweddarach) – digwyddiad sydd wedi ei anfarwoli yn Richard II gan Shakespeare. Mae grisiau newydd sbon wedi cael eu gosod yn un tŵr. Mae’n uwch na’r disgwyl ond mae’n werth ei ddringo i weld yr olygfa o aber Afon Dyfrdwy. Os edrychwch yn ofalus, gallwch weld ffurfiau’n eistedd ar y meinciau, ond maen nhw’n llonydd iawn oherwydd ffigurau ydynt i nodi’r rhai a fu’n gwasanaethu yn y rhyfel byd cyntaf ac a fu’n hyfforddi yma. Maent i’w gweld yn syllu allan i’r môr yn myfyrio ar eu tynged. Mae’r tŵr gyferbyn wedi cael ei alw’n addas iawn gan bobl leol yn Dŵr yr Eliffant gan ei fod wir yn debyg i eliffant. I gyd-fynd ag elfen artistig y daith, dangoswyd delweddau o ddarlun Turner o’r castell i ni, ac nid oes llawer wedi newid ers iddo ei ddarlunio mor dda.
Mae Gogledd Ddwyrain Cymru bob amser yn fy rhyfeddu gyda’i haenau amrywiol o hanes cyfoethog yn cuddio trysorau cudd sy’n eich annog i fynd i archwilio a thanio’r dychymyg. Beth yw eich hoff drysor cudd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru?
The project was funded through Denbighshire, Flintshire and Wrexham Councils (North East Wales) and the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.