Oes gennych chi gwestiwn?
Gadewch i’n Canolfannau Croeso wneud eu gwaith! Mae gennym dair Canolfan Groeso yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Maent wedi eu lleoli yn Llangollen, Y Rhyl a Wrecsam. Mae’r bobl sy’n gweithio yno yn hynod o gymwynasgar ac fe fyddant yn gwneud yn siŵr eich bod yn dod o hyd i’r union wyliau byr yr ydych ei eisiau. Gallant archebu llety i chi, awgrymu llefydd i ymweld â hwy a rhoi digonedd o fapiau a chyfeirlyfrau i chi. Ffoniwch cyn i chi fynd ar eich gwyliau, anfonwch e-bost neu galwch heibio wrth basio.