Llwybr Tref Y Rhyl
Dwy ganrif yn ôl roedd y Rhyl yn bentref pysgota di-nod ar arfordir gogledd Cymru. Ond, erbyn canol y 1800au, diolch i’r rheilffordd, roedd yn un o’r dyfrfannau mwyaf ffasiynol ym Mhrydain. Dyma lwybr llawn awyrgylch atgofus a byddwch yn gweld nifer o olion Fictoraidd ac Edwardaidd o oes aur y Rhyl. Ond mi fyddwch chi hefyd yn dod ar draws pont o’r unfed ganrif ar hugain a pharc dwr newydd sbon danlli, gwerth sawl miliwn o bunnau, sy’n denu 350,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Mae llawer o newid wedi bod ers i’n cyndeidiau gerdded i lawr y promenâd mewn hetiau silc neu grinolinau. Ond mae rhai pethau wedi aros yr un fath – y môr, y tywod a’r hinsawdd sy’n fwy heulog na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Pellter: 3.1 milltir / 5 km (gan gynnwys amdaith i Theatr y Pafiliwn)
Pa mor anodd yw’r llwybr?: Hawdd a gwastad
Amser yn cerdded: 2.5 awr
Man cychwyn: Maes Parcio’r Tŵr Awyr, Rhodfa’r Gorllewin LL18 1HF
Cludiant cyhoeddus: Traveline Cymru 0800 464 0000,
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 03457 484950
SC2
Heb amheuaeth, prif atyniad glan môr y Rhyl yw SC2 a’i 1,200 metr sgwâr o hwyl ddyfriog gyda llithrennau mawr y tu mewn a’r tu allan, mannau padlo, llithrennau bach, pad sblasio y tu allan sy’n grêt ar gyfer plant bach, a therasau caffi i’r oedolion. Mae hefyd yn cynnwys arena chwarae dan do cyffrous TAGactive – y cyntaf yng Nghymru. Mae SC2 yn brofiad gwyliau cyflawn, pa un ai ydych chi’n chwilio am gyffro neu’n dymuno padlo ac ymlacio a rhoi eich traed i fyny.
www.sc2rhyl.co.uk
Yr Awyrennwr
Vivian Hewitt
O’r Tŵr Awyr, trowch i’r chwith ar hyd Rhodfa’r Gorllewin.
Mae’r arena ddigwyddiadau awyr agored ar eich chwith yn un o fannau gwylio gorau Sioe Awyr y Rhyl, pan fydd 140,000 o bobl yn heidio i’r promenâd yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc mis Awst. Mae hanes awyrennu’r dref yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer. Ar 21 Ebrill 1912 bu i’r awyrennwr Vivian Hewitt esgyn o draeth y Rhyl mewn monoplan Bleriot wedi’i wneud allan o goed, weiars a chynfas. Ar ôl ail-lenwi’r awyren â phetrol yng Nghaergybi glaniodd yn ddiogel yn Nulyn fel y dyn cyntaf i hedfan dros Fôr Iwerddon. Byddai ei lwyddiant wedi bod yn fwy adnabyddus pe na bai wedi digwydd yn fuan ar ôl i’r Titanic suddo.
Theatr y Pafiliwn
Os hoffech chi amdaith i Theatr y Pafiliwn, ewch ar hyd Rhodfa’r Dwyrain. Ar y chwith byddwch yn gweld Pro Kitesurfing, sy’n cynnig antur a chaffi ger y traeth.
Mae Theatr y Pafiliwn a’i 1000 o seddi yn cynnal cymysgedd o gyngherddau, nosweithiau comedi a sioeau West End. I fyny’r grisiau fe ddowch o hyd i fwyty a bar 1891 sy’n defnyddio bwydydd a chynhwysion lleol. Dyma le bendigedig i fwynhau pryd o fwyd cyn sioe neu i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd godidog o’r môr. Ewch yn ôl ar hyd Rhodfa’r Dwyrain, a chofiwch aros i sylwi ar y tŵr gwylio a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel gorsaf signalau semaffor ar gyfer stemars padlo.
www.rhylpavilion.co.uk
www.1891rhyl.com
Eglwysi’r Drindod
Sanctaidd a
Sant Thomas
Trowch i’r chwith i Stryd y Baddon a’i adeiladau Fictoraidd gwych.
Cyn i’r rheilffordd gyrraedd yn 1848 pentref di-nod oedd y Rhyl. Ond, yn fuan iawn wedyn daeth y lle’n fwrlwm o dwristiaid yn chwilio am antur a dechreuwyd adeiladu ac estyn y pentref. Gorffennwyd Eglwys Sant Tomos, adeilad gothig Fictoraidd gan y pensaer George Gilbert Scott, yn 1867. Drws nesaf mae Eglwys y Drindod Sanctaidd, eglwys a godwyd yn 1835 a ddaeth, o fewn cenhedlaeth, yn rhy fach i’r cynulleidfa a oedd wedi tyfu yn sgil y cyrchfan gwyliau poblogaidd. Er gwaethaf presenoldeb ei frawd mawr gerllaw, dyma eglwys y plwyf hyd heddiw.
Amgueddfa’r Rhyl
Mae’r amgueddfa yn Llyfrgell y Rhyl ar y chwith.
I fyny’r grisiau gallwch gerdded ar hyd pier Edwardaidd dychmygol ac edrych i mewn i giosgau yn llawn pethau gwych a rhyfeddol fel gwregysau achub, cadeiriau baddon a dillad nofio o oes aur y cyrchfan. Mae’n fan gwych i ddysgu mwy am yr unigolion a luniodd y Rhyl a Phrestatyn gerllaw, o wneuthurwyr y baddonau Rhufeinig i arloeswyr cynnar y sinema. Ac mae’n rhad ac am ddim.
Ewch i mewn i Ganolfan Siopa’r Rhosyn Gwyn. Trowch i’r chwith ac yna i’r dde i’r Stryd Fawr.
Neuadd y Dref
Ewch i lawr y Stryd Fawr, ac yna troi i Stryd y Farchnad.
Agorwyd Neuadd y Dref gyferbyn gyda gorymdaith stryd a ffanfer yn 1876 – a hynny’n haeddiannol. Mae’n enghraifft wych o bensaernïaeth ddinesig hyderus yn arddull Gothig Ffrainc. Y tu mewn roedd swyddfeydd clerc y dref a’r syrfëwr, gorsaf dân, cegin gawl, banc, cyfnewidfa yˆd a swyddfa arwerthwr. Os nad oedd hyn oll yn ddigon, cafwyd estyniad yn 1907 ar gyfer llyfrgell a ariannwyd gan y dyngarwr Andrew Carnegie, a oedd hefyd yn gyfrifol am y Carnegie Hall yn Efrog Newydd. Roedd llyfrgell y dref wedi’i lleoli yma tan 1982.
Llyn Morol
Wrth fynd tua’r gorllewin byddwch yn gweld hen Eglwys Sant Ioan ar gornel Stryd yr Afon, a godwyd yn 1885 ar gyfer cynulleidfa o Erddi’r Gaeaf.
Llyn Morol y Rhyl, sydd wedi’i gysylltu â’r môr gan lifddor, yw’r unig lyn dwˆ r hallt yng ngogledd Cymru. Os hoffech chi, gallwch gerdded ar hyd llwybr natur a threftadaeth o amgylch y llyn. Neu, os ydi hynny’n weithgaredd rhy egnïol i chi, beth am gamu ar yr hen locomotif stêm, y rheilffordd fach hynaf ym Mhrydain. Bu iddyn nhw ddathlu can mlynedd yn 2011 drwy godi Gorsaf Ganol gydag amgueddfa lle fedrwch chi gogio gyrru trên, tynnu liferi signal a chanu’r clychau. Beth am roi cynnig arn?
Harbwr y Rhyl
Mae’r harbwr gwreiddiol dros 700 mlwydd oed, wedi’i greu fel rhan o sianel ddwˆ r dwfn i gyflenwi castell Edward y Cyntaf yn Rhuddlan. Ond mae pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny. I ddechrau mae yna amddiffynfeydd arfordirol newydd, llithrfa, iard gychod a chei estynedig. Heb sôn am fast 50 metr Pont y Ddraig. Mae’r adeiledd eiconig yma, sy’n agor a chau fel blodyn metel anferth i ganiatáu i gychod hwylio heibio, yn arwain at y caffi a’r siop hurio beics newydd. Ond mae hefyd yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 a Llwybr Arfordir Cymru.
Trwyn Horton
Mae ganddo siâp sy’n debyg i drwyn ac roedd yn eiddo i ddyn o’r enw Horton. A dyna pam bod y warchodfa natur hon, un o’r systemau twyni tywod olaf ar arfordir gogledd Cymru, wedi’i galw’n Trwyn Horton. Ewch am dro ar hyd y llwybr bordiau i weld golygfeydd hardd o lan môr y Rhyl ac, os ydych chi’n lwcus, efallai y gwelwch chi ychydig o fywyd gwyllt hefyd, fel madfallod, ehedyddion, bilidowcars a môr-wenoliaid pigddu. Yn anhygoel, yn 1962 y fan a’r lle yma oedd cartref gwasanaeth hofrenfad gyntaf y byd, yn uno’r Rhyl â Wallasey.
Ewch yn ôl dros y bont a cherddwch ar hyd Rhodfa’r Gorllewin. Cadwch i’r chwith ar hyd glan y môr ac ewch am oleufâu uchel Parc Drifft.
Llongddrylliad
Resurgam
Wedi’i ysgythru ar wal wrth ymyl y trydydd oleufa mae delwedd o’r Rhyl yn yr oes a fu. Yn hedfan yn uchel uwchben y dref gwelir awyren Vivian Hewitt (gweler rhif 2) ac oddi tano mae cwch o ryw fath i’w weld yn y tonnau. Dyma’r Resurgam, un o gychod tanddwr pwˆ er hynaf yn y byd a chynnyrch meddwl y clerigwr ecsentrig y Parch. George Garrett. Wedi’i hadeiladu ym Mhenbedw yn 1879, suddodd ei gwch danfor, a oedd yn cael ei phweru â stêm, yn fuan ar ôl gadael y Rhyl i fynd i Portsmouth. Yn 1995 darganfuwyd y drylliad pum milltir ar y môr gan ddeifiwr lleol. Ond, hyd yma, nid yw enw’r bad, “Fe ddyrchafaf eto” yn Lladin, wedi bod yn broffwydol.