Llwybr Tref Dinbych
Dyma hanes dwy dref. Un ohonynt yw tref garsiwn gaerog fawr Edward I, gyda’i chastell eiconig, a deiladwyd yn ddidrugaredd ar ben caer Gymreig hynafol. Y llall yw’r dref farchnad brysur sy’n rhaeadru i lawr y bryn mewn amrywiaeth rhyfeddol o arddulliau pensaernïol dros y naw canrif nesaf.
Pellter: 1.25 milltir / 2 km gan gynnwys Stryd y Dyffryn
Pa mor anodd yw’r llwybr?: Rhai rhannau cymedrol i fyny allt, arwyneb anwastad ar furiau’r dref
Amser yn cerdded: 75 munud
Man cychwyn: Maes parcio Factory Place LL16 3TS
Cludiant cyhoeddus: Traveline Cymru 0800 464 0000,
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 03457 484950
Lôn Gefn
Sefwch yn y maes parcio gydag Eglwys fawreddog y Santes Fair y tu ôl i chi ac ewch i gyfeiriad y llwybr wrth ymyl y Eagles Inn.
Arferai Lôn Gefn fod yn rhan o’r farchnad ganoloesol ac mae’n cynnwys adeiladau hynaf Dinbych nad ydynt yn gysylltiedig â’r castell neu muriau’r dref. Mae’n debyg bod tafarn y Llew Aur wedi’i chodi ddechrau’r 16eg ganrif fel dwy siop ar wahân. Fe sylwch hefyd ar gefn 33 Stryd Fawr, sy’n fwy adnabyddus fel Siop Clwyd. Diolch i dendrocronoleg, neu ddyddio yn ôl cylchoedd coed, rydym yn gwybod bod yr adeilad ffrâm bren bach a cham hwn yn dyddio o 1533, gan ei wneud yn un o siopau hynaf Cymru.
Llyfrgell Dinbych
Trowch i’r dde i mewn i Sgwâr y Goron a cherddwch heibio’r gofeb ryfel gan Charles Leonard Hartwell i gyfeiriad y llyfrgell.
Mae’r cerflun y tu allan i’r llyfrgell ac oriel gelf o’r fforiwr Fictoraidd dadleuol HM Stanley, a anwyd yn Ninbych ym 1841. Y tu mewn mae cast plastr ychydig yn arswydus o’i law, a estynnodd unwaith wrth ddweud y geiriau enwog: “Dr Livingstone, I presume?” Ar gael yma hefyd mae wifi am ddim ac, am flaendal bychan, eich goriad eich hun i furiau’r dref (gweler rhif 5). Adeiladwyd y llyfrgell fel Neuadd y Sir ym 1572 gan Iarll Caerlyˆ r – mwy amdano ef yn nes ymlaen. Roedd y colofnresi yn agored yn y dyddiau hynny i wneud lle i Neuadd y Farchnad.
Lôn Brombil
Edrychwch am yr arwydd i’r castell wrth ymyl tafarn yr Old Vaults.
Mae llawer o siopau annibynnol hynod a thafarndai a chaffis bywiog Dinbych wedi’u clystyru rhwng y Stryd Fawr a chylchfan Lenten Pool, a oedd ar un adeg yn bwll pysgod canoloesol. Felly, mae pob croeso i chi newid cyfeiriad yn y fan hon cyn dychwelyd i Lôn Brombil. Roedd hon ar un adeg yn llwybr tawel yn cysylltu’r dref a’r castell, a ddefnyddiwyd yn bennaf gan bobl leol – ond erbyn hyn mae’r gyfrinach wedi’i thorri. Mae wedi cael ei thrawsnewid gan ddim llai na phum artist gyda chymorth cerddi, cerfluniau, griliau ffenestri addurniadol, goleuadau uwchben a hyd yn oed gorchuddion cyfleustodau newydd, y cyfan yn seiliedig ar dreftadaeth unigryw Dinbych neu hanesion o’r Mabinogion.
Porth Burgess
Rydych rŵan yn cyrraedd tref gaerog ganoloesol Edward I. Adeiladwyd yr enfawr Porth Burgess a’i dyrrau dwbl rhwng 1282 a 1294 gan ei farwn Henry de Lacy, Iarll Lincoln. Yn wreiddiol roedd yn 60 troedfedd o uchder ac yn llawn amddiffynfeydd gan gynnwys ffos, pont, porthcwlis a thyllau llofruddio, ac mae’n debyg iddo gael ei ddylunio gan hoff bensaer milwrol Edward, sef James o St George. Gwelodd ddigon o gyffro yn ystod gwarchae enwog Dinbych yn ystod y Rhyfel Cartref – gallwch weld y creithiau a achoswyd gan ynnau mawr a daniwyd gan y lluoedd seneddol. Daw golygfeydd ysblennydd dros y dref i’r amlwg wrth i chi fynd o dan y giât a mynd am dro ar hyd Leicester Terrace.
Muriau’r Dref
Cewch fynediad at y muriau ar hyd y ramp gyferbyn â Leicester Terrace.
Oes gennych chi eich goriad? Os nad oes, holwch yn y castell. Wnewch chi ddim difaru – er hynny, gwyliwch am arwynebau anwastad a chwympau heb eu diogelu. Dyma un o’r muriau tref canoloesol mwyaf cyflawn ym Mhrydain. Cawsant eu hadeiladu i ddiogelu bwrdeistref Saesnig newydd ar ben hen gadarnle Cymreig Dafydd ap Gruffydd, ac mae’r muriau a’r tyrau calchfaen hyn yn cynnig golygfeydd trawiadol ar draws Dyffryn Clwyd. Heb sôn am gipolwg bryfoclyd i mewn i rai o erddi cudd Dinbych a theithiau cerdded yn y coetir. Chwiliwch am dŵr gwyn Eglwys Sant Marcella yn y pellter.
Eglwys Leicester
Efallai eich bod eisoes wedi gweld adfail di-do Eglwys Leicester o furiau’r dref. Os naddo, edrychwch amdano ar y chwith wrth i chi gerdded i fyny Bull Lane. Dyma’r cyfan sy’n weddill o uchelgais fawreddog un dyn. Dechreuodd Robert Dudley, Iarll Caerlŷr a ffefryn Elisabeth I, waith ar yr eglwys 10 bwa ym 1578. Mae’n debyg mai’r bwriad oedd creu eglwys gadeiriol Brotestannaidd newydd, gydag arddull Gothig ar y tu allan a chlasurol ar y tu mewn, hon fyddai wedi bod yn eglwys fwyaf oes Elisabeth. Ond ni chafodd ei chwblhau. Bron mor gyflym ag y gallai’r amhoblogaidd Dudley godi’r cerrig, roedd pobl leol yn eu tynnu i lawr. Nid oedd mwy o arian ar ôl a gadawodd ei gynllun mawreddog i drugaredd yr elfennau ym 1584.
Capel St Hilari
Mae’r tŵr ynysig hwn yn dal yn drawiadol ddigon. Ond ar un adeg roedd gan St Hilary, a adeiladwyd yn tua 1300 fel capel garsiwn i dref gaerog Edward I, gorff eglwys, cangell, ystlys ogleddol a thŵr gorllewinol hefyd. Erbyn y cyfnod Fictoraidd, roedd yn dirywio’n wael ac roedd eglwyswyr yn wynebu dewis anodd: talu am waith atgyweirio costus neu adeiladu eglwys arall mewn man mwy cyfleus. Doedd dim amheuaeth. Agorwyd Eglwys y Santes Fair gyda’i ffenestri lliw Celf a Chrefft hyfryd ym 1875 – a chafodd popeth heb law am dŵr herfeiddiol St Hilari eu dymchwel o’r diwedd ym 1923.
Castell Dinbych
Camwch i mewn i borthdy tri thŵr mawreddog Castell Dinbych ac rydych yn sicr o deimlo ymchwydd o gyffro. Byddwch hefyd yn clywed twrw codi’r porthcwlis a throedio trwm milwyr yn gorymdeithio, diolch i’r ceidwaid Cadw. Bydd eu canolfan ymwelwyr ecogyfeillgar yn dweud y cyfan wrthych am y gaer Edwardaidd glasurol hon, a adeiladwyd fel rhan o “gylch haearn” o gestyll Saesnig ddiwedd y 13eg ganrif i ddarostwng y Cymry. Nid oedd yn lwyddiant ar y dechrau. Cipiodd Madog ap Llywelyn y castell a adeiladwyd yn rhannol ym 1294 ac, pan wnaethant ei gipio yn ôl yn y pen draw, gwnaeth y Saeson y waliau hyd yn oed yn fwy trwchus ac yn uwch.
www.cadw.llyw.cymru
Stryd y Dyffryn
Dychwelwch eich goriad i’r llyfrgell ac, os dymunwch, ychwanegwch y dargyfeiriad hwn.
Hyd yn oed yn Ninbych, gyda’i chyfoeth o adeiladau rhestredig, mae Stryd y Dyffryn yn ryfeddod pensaernïol. Wrth i’r dref ffynnu, codwyd cyfres o dai bonedd yma i greu ardal breswyl benodol. Mae’r cynharaf, Y Gelli neu Grove House, yn dyddio o 1574 – gan ei wneud yn un o’r tai brics cyntaf yng Nghymru. Mae’r gweddill, fel Tŷ Mostyn neu Plas Grove, yn dyddio’n bennaf o’r 18 ganrif neu ddechrau’r 19 ganrif. Chwiliwch am Dŷ Thomas Gee ar y chwith, sef cartref y pregethwr Anghydffurfiol chwedlonol a chyhoeddwr. Mae Argraffdy Gwasg Gee, a oedd yn dal i redeg tan 2001, i’w weld o hyd ar Lôn Swan.
Gardd Goffa
Dr Evan Pierce
Roedd y Crwner, YH, Henadur a Maer Dinbych, Dr Evan Pierce, yn arwr yn epidemig colera 1832. Ond nid oedd gwyleidd-dra yn un o’i gryfderau. Pan gynhigiodd pobl ddiolchgar y dref adeiladu cofeb iddo, rhoddodd y tir iddynt – yn union gyferbyn â’i ddrws ffrynt ym Mhlas Salusbury sydd wedi’i ddymchwel bellach. Fel y gallai edrych bob bore ar ei gerflun ei hun ar ben ei golofn Tysganaidd 72 troedfedd. Diolch i waith adfer yn 2007, y safle heddychlon a dirgel hwn gyda’i ffynhonnau a choed conwydd yw prif ardd hanesyddol Sir Ddinbych.
Dilynwch eich camau i fyny Stryd y Dyffryn i ddychwelyd i’ch car.