Moel Famau
Mae Moel Famau, pwynt uchaf Bryniau Clwyd yn llythrennol, yn lle da i ddechrau crwydro. Gyda Thŵr y Jiwbilî eiconig Sioraidd ar y copa mae’n hawdd i’w weld, ac ar ôl ychydig o waith caled i’w gyrraedd, eich gwobr fydd golygfeydd panoramig anhygoel ar draws Glannau Merswy, yr arfordir, Eryri a Dyffryn Dyfrdwy. Cadwch eich llygad ar agor am y trigolion lleol; dim ond dau o’r rhywogaethau sy’n gartrefol ar y rhostir grug agored yw’r ehedydd a’r rugiar ddu brin.