Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Tri phrosiect i wella’r dirwedd ar gyfer cenedlaethau’r i ddod.

Corwen

Mae cofeb hanesyddol yng Nghorwen yn cefnogi gwaith i helpu dyfodol cenedlaethau o natur a chymunedau.

Mae timau Newid Hinsawdd a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i ddarparu cefnogaeth newydd i natur ac ymwelwyr ei mwynhau o dan lygad barcud cofeb Bryngaer Oes Haearn Caer Drewyn.

Mae dros 1,500 o goed wedi’u plannu ar y llethrau isaf o dan y fryngaer er mwyn helpu i greu cynefinoedd newydd llawn rhywogaethau amrywiol i gefnogi’r byd natur lleol.

Mae gwrych 190 metr o hyd wedi’i greu gyda chymorth disgyblion Ysgol Caer Drewyn, sy’n cynnwys dros 1,000 o goed chwip gan gynnwys y Ddraenen Wen, Y Ddraenen Ddu, Cyll, Celyn, Rhosyn Gwyllt, Rhosyn Bwrned, Gellyg Gwyllt ac Afalau Surion.

Mae’r gwrych hefyd yn cynnwys 19 o goed maint safonol gan gynnwys Derw Digoes, Derw Coesynnog, Bedw Arian, Bedw Cyffredin a Chriafolen.

Wrth ymyl y clawdd mae 389 o goed wedi’u plannu ar 2.4 hectar o dir. Bydd y safle newydd hwn yn cynnwys coed Criafolen, Bedw Arian, Bedw Cyffredin, Draenen Wen, Rhosyn Gwyllt, Cyll, Draenen Ddu, Celyn, Afalau Surion, Derw Digoes, Ysgaw, Aethnen a Breuwydd.

Plannwyd y coed gyda chwech i saith metr rhyngddynt er mwyn creu ardal o gynefin coetir a fyddai’n fwy ffafriol i fyd natur lleol.

Mae’r datblygiad yma’n rhan o waith y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a’i fwriad i fod yn Ddi-garbon Net ac yn awdurdod lleol Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae colli a darnio cynefinoedd yn fygythiadau mawr i fioamrywiaeth, ac mae newid hinsawdd yn gwaethygu hyn drwy gyfyngu ar allu rhywogaethau i gael mynediad at gynefinoedd mwy ffafriol.

I Gaer Drewyn, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

Mae datblygiadau eraill ar y safle yn cynnwys gwella ardaloedd o rostir a datblygu ardal o gynefin gwlyptir. Mae llwybrau troed ar y safle yn cael eu gwella, ochr yn ochr â ffensys a giatiau mynediad newydd.

Mae’r prosiect creu coetir wedi derbyn cyllid grant gwerth £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU ac mae’n cael ei gynnal ochr yn ochr â phrosiectau eraill yng Nghaer Drewyn, gan gynnwys menter gwella tirwedd, a ariennir gan y Grid Cenedlaethol, a mesurau yn yr ardal ehangach i warchod y gylfinir.

Bydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn y tymor hir fel rhan o’u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.  

Prestatyn

Mae defaid yn helpu i roi hwb i flodau a bywyd gwyllt ar ochr bryn yn Sir Ddinbych.

Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cyflwyno diadell o ddefaid i Fryniau Prestatyn i helpu i gynnal yr amrywiaeth o flodau a bywyd gwyllt sy’n cyfrannu at gymeriad arbennig y safle.

Mae’r ochr bryn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am ei laswelltiroedd calchfaen sy’n bwysig yn genedlaethol.

Mae defnyddio anifeiliaid sy’n pori yn lleihau’r angen i reoli safleoedd yn fecanyddol drwy ddefnyddio offer a pheiriannau trwm ac mae’n galluogi i’r tir gael ei reoli mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Codwyd ffensys a gosodwyd cyflenwad dŵr ym mis Ionawr 2022 gyda’r holl ddeunyddiau yn cael eu cario ar y safle â llaw oherwydd y mynediad cyfyngedig i gerbydau.  Gosodwyd giatiau mochyn hefyd i sicrhau nad oedd mynediad i gerddwyr yn cael ei gyfyngu ar hyd Llwybr Clawdd Offa.

Mae’r defaid ar y safle i gefnogi’r nifer fawr o flodau a bywyd gwyllt ar y safle. Maent yn cyflawni hyn drwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf a fydd yn caniatáu i blanhigion blodeuol llai ffynnu erbyn yr haf, gan roi hafan i loÿnnod byw a bywyd gwyllt arall.

Mae’r anifeiliaid yn cael eu rhoi allan am gyfnodau byr rhwng mis Hydref a Mawrth a gofynnir i’r cyhoedd gadw eu cŵn ar dennyn pan fyddant yn cerdded trwy’r ardaloedd y mae’r defaid yn eu pori.

Yn ystod mis Chwefror, bydd defaid yn pori ardal ar yr Ochr Bryn sydd heb gael ei ffensio felly bydd bugail yn cael ei ddefnyddio er mwyn cadw’r ardal mewn cyflwr ffafriol..

Llanarmon yn Iâl

Mae ardal newydd o wlyptir yn cael ei ffurfio ar Fryniau Clwyd i gynorthwyo i gefnogi natur yn lleol.

Cynhelir Diwrnod Gwlyptir y Byd ddydd Sul (2 Chwefror) i barhau i gefnogi adfywiad rhai o’r ardaloedd pwysig hyn i gynorthwyo i annog mwy o fywyd gwyllt i ddychwelyd a ffynnu. 

Mae gwaith creu gwlyptir ychwanegol ar y gweill ar safle gwarchodfa natur Moel y Plas, ger Llanarmon yn Iâl.

Mae tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych, yn datblygu ardal ar y bryniau er budd natur a chymunedau lleol.

Mae bron i 18,000 o goed llydanddail cynhenid wedi’u plannu ar y safle i greu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau amrywiol, mae llwyni wedi’u plannu i wella cysylltedd ar draws y safle a thrwy weithio gyda phrosiectau ffarmio bu modd dechrau adfer cynefinoedd ucheldir fel Rhostiroedd a Ffriddoedd drwy ailgyflwyno anifeiliaid pori. 

Mae hygyrchedd ar gyfer ymwelwyr yr ardal wedi’i wella hefyd gyda ffensys newydd, arwyddion a giatiau mochyn er mwyn sicrhau bod y llwybrau’n hygyrch ac yn hawdd eu dilyn.  

Bydd yr ardal newydd o wlyptir ym Moel y Plas yn gymorth i ddarparu lloches a bwyd ar gyfer nifer o anifeiliaid ac yn annog ystod eang o blanhigion i dyfu yno.  Bydd y math yma o ardal hefyd yn storio carbon sy’n gymorth i liniaru effaith Newid Hinsawdd a gall weithredu fel rhwystr llifogydd naturiol drwy amsugno dŵr yn ystod cyfnodau o law trwm.

Gall ystod eang o fywyd gwyllt ddefnyddio’r math yma o gynefin sydd ar y gweill ym Moel y Plas, gan gynnwys Llygod Pengrwn y Dŵr, Chwistlod y Dŵr, Brogaod Cyffredin, Hwyaid Gwyllt, Crehyrod Glas, Crehyrod Bach Copog a Glas y Dorlan hyd yn oed. 

Mae modd canfod pryfaid fel Rhianedd y Dŵr a Chwilod Dŵr yn y cynefin hefyd ochr yn ochr â Mursennod.  Gall gwlyptiroedd annog tyfiant blodau gwyllt, fel Tegeirian Bera.

Ar gyfer datblygiad Moel y Plas, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

Mae’r prosiect creu coetir wedi cael cyllid allan o grant o £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU.

Bydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn yr hirdymor fel rhan o’u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.