Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

2025 fydd Blwyddyn Groeso – yng Nghymru.

Bydd Croeso 25 yn lansio ym mis Ionawr 2025 ac yn nodi’r nesaf mewn cyfres lwyddiannus o flynyddoedd thema dan arweiniad Croeso Cymru. Rydym ni yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn bwriadu defnyddio’r flwyddyn thematig hon i ddathlu ein croeso Cymreig. Ei nod yw rhannu’r profiad Cymreig unigryw a’r ‘hwyl’ gyda’r byd.

Nod y Flwyddyn Groeso yw dathlu’r ffyrdd unigryw ac amrywiol y mae pobl ledled y DU a’r byd yn cael croeso wrth ddod ar wyliau i Gymru.

Mae’r croeso cyfeillgar mae ymwelwyr yn ei gael yng Nghymru yn rheswm allweddol y mae llawer yn dewis dychwelyd dro ar ôl tro, sy’n dyst i ddiwylliant Cymru a’i phobl, a dyma’r prif ddylanwad pam ddewisodd Croeso Cymru y thema ‘Croeso’ ar gyfer 2025.

Mae’n gyfle i ddathlu ymdeimlad unigryw gogledd-ddwyrain Cymru o le, o ddiwylliant ac iaith, drwodd i’n hystod enfawr o atyniadau, llety, digwyddiadau a gweithgareddau.

Mae’r Flwyddyn Groeso yn tynnu sylw at y ffaith bod gogledd-ddwyrain Cymru yn lle i bawb.  Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael croeso Cymreig unigryw ac yn darganfod eu hwyl drwy eu hanturiaethau unigryw eu hunain.  Rydym ni’n credu y dylai pawb gael blas ar hud Cymru.

Os hoffech chi neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod ddod yn Llysgennad Cymru, dysgu mwy am yr ardal a sut i roi’r croeso gorau, gallwch ddysgu popeth am ein cwrs rhad ac am ddim yma.